Mae Pwyllgor y Ffrindiau yn trefnu digwyddiadau pob blwyddyn er mwyn codi arian i’r ysgol gael ddarparu adnoddau ychwanegol i wella profiad dysgu’r plant. Mae’r digwyddiadau yn cynnwys noson bingo, raffl Nadolig a’r ras hwyaid a’r ffair haf blynyddol. Mae’r arian a godwyd yn ddiweddar wedi galluogi’r ysgol i brynu camerâu digidol i bob dosbarth, bwrdd rhyngweithiol newydd i’r dosbarth meithrin a derbyn ac amrywiaeth o adnoddau dysgu yn ogystal â gwersi clocsio a gweithdai crefft a gwyddoniaeth.
Mae ‘Ffrindiau Ysgol Bro Brynach’ yn cynnal cyfarfodydd yn dymhorol i godi arian ac i drafod materion sy’n gysylltiedig â’r ysgol. Os oes unrhyw un eisiau codi rhyw fater mewn cyfarfod, dylent nodi hynny o flaen llaw.
Gwerthfawrogir syniadau a chyfraniadau pawb.
Cofnodion Cyfarfod