Mae’r ysgol yn cymryd rhan mewn cynllun Eco-Sgolion a newydd dderbyn y drydedd faner werdd. Byddwn nawr yn gweithio tuag at y wobr Platinwm.
Mae gardd flodau a llysiau yn yr ysgol sydd yn cael ei ddatblygu yn flynyddol. Rhoddir hyn cyfleoedd newydd i’r plant. Cânt cyfleoedd i blannu, tyfu a blasu’r llysiau sydd yn gwneud nhw’n fwy ymwybodol o le ceir bwyd a’r gwaith sydd yn mynd mewn i dyfu bwyd.
Maent yn cael ei gwneud yn fwy ymwybodol o’r effaith mae eu gweithredoedd nhw yn cael ar yr amgylchfyd e.e. taflu sbwriel, teithio mewn cerbydau a prynu bwydydd sydd wedi teithio o bellter.
Ein cod eco yw:
- Ail-gylchu
- Codi sbwriel
- Cau tapiau dŵr
- Diffodd goleuadau
- Cerdded/beicio i’r ysgol
- Bwyta ffrwythau a llysiau tymhorol