Croeso i’r Ddysgu Sylfaen
Mae’r Dysgu Sylfaen yn cynnwys disgyblion o 3 i 7 blwydd oed.
Addysgir ein dosbarth meithrin a derbyn gan Miss Morris. Addysgir blynyddoedd 1 a 2 gan Miss Wilson. Cefnogir y ddwy athrawes gan dîm o gynorthwywyr addysgu cymwys a phrofiadol.
Mae’r Dysgu Sylfaen wedi’u wneud o dri ardal, dosbarth Lliwe, dosbarth Sien a’r ardal allanol sef Cwtsh y Cadno. Mae diwrnod y disgyblion yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau, tasgiau ffocws ac amser Ditectif Dysgu. Yn ystod amser ditectif dysgu mae’r disgyblion yn cael amser i archwilio ac arbrofi syniadau eu hunain a chwblhau heriau.
Mae’r gwersi yn cael eu gwahaniaethu yn ôl gallu’r disgyblion ac nid blwyddyn ysgol sydd yn sicrhau lefel o her addas ar gyfer pob disgybl er mwyn iddynt gyrraedd eu llawn potensial.
PETHAU I’W COFIO:
- Potel ddŵr a ffeil darllen pob dydd
- Cot oherwydd mae gweithgareddau yn cael eu gwneud tu allan bob dydd er gwaethaf y tywydd
- Llun Llanast: angen dillad ac esgidiau glaw
- Dydd Mercher: dillad ymarfer i blant flynyddoedd 1 a 2
- Dydd Iau: dillad ymarfer i blant meithrin a derbyn