Dyma gyfnod cyffrous i bobl ifanc Cymru. Mae Cwricwlwm newydd i Gymru ar y gweill fydd yn ennyn brwdfrydedd ac ysbrydoli dysgwyr o 3 i 16, gan roi iddynt y sylfaen sydd ei angen i lwyddo mewn byd sy’n newid yn gyson.
Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau bod Llywodraeth Cymru yn derbyn yn llawn yr argymhellion a bennwyd gan yr Athro Graham Donaldson yn ei adroddiad Dyfodol Llwyddiannus yn dilyn arolwg annibynnol o drefniadau’r cwricwlwm ac asesu yng Nghymru.
Wrth wraidd y cwricwlwm y mae’r pedwar diben, sy’n rhoi’r cyfle i bob plentyn a pherson ifanc ddatblygu i fod:
- yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes;
- yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith;
- yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd;
- yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Elfennau Allweddol:
Bydd y cwricwlwm newydd yn cynnwys:
- 6 Maes Dysgu a Phrofiad 3-16
- 3 cyfrifoldeb trawsgwricwlaidd: llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol
- camau dilyniant yn 5 oed, 8, 11, 14 ac 16
- deilliannau cyrhaeddiad sy’n disgrifio llwyddiannau disgwyliedig ar bob cam dilyniant.
Bydd y cwricwlwm yn cael ei drefnu yn 6 Maes Dysgu a Phrofiad:
- Celfyddydau mynegiannol
- Iechyd a lles
- Dyniaethau (gan gynnwys Addysg Grefyddol ddylai aros yn orfodol i 16 oed)
- Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu (gan gynnwys ieithoedd tramor modern yng Nghymru, a ddylai aros yn orfodol i 16 oed,)
- Mathemateg a rhifedd
- Gwyddoniaeth a thechnoleg (yn cynnwys cyfrifiadureg).
Linciau:
Deall yr amserlenni: Diwygio Addysg a’r Cwricwlwm
Gwylio: Cwricwlwm Newydd i Gymru