Croeso i ddosbarth Cynin
Rydym ni’n griw bywiog a thalentog sy’n hoff iawn o weithio’n galed. Ein nod yw i gyrraedd y brig a i’n llawn potensial. Rydym wrth ein bodd yn dysgu pethau newydd wrth gwblhau amryw o heriau yn ein sesiynau Ditectif Dysgu. Rydym hefyd yn mwynhau cael y cyfle i ddysgu yn yr ardal allanol wrth gwblhau tasgau ymarferol yn ein sesiynau Gwener Gwyllt.
Miss Gibby yw ein athrawes dosbarth, ac yn ein helpu ni i ddeall ein gwaith mae Mrs Morris.
Ein thema y tymor yma yw: Mi Welaf i…
Trefniadau dosbarth:
9:00 – 9:30 – Carosel Darllen
9:30-10:30 – Iaith (Cymraeg/Saesneg)
10:30-10:50 – Amser egwyl
10:50 – 12:00 – Mathemateg
12:00 – 1:00 – Amser Cinio
1:00 – 3:15 – Thema/Gwyddoniaeth/Ymarfer Corff/Celf neu Dylunio a Thechnoleg
Pethau i’w cofio:
Potel ddŵr, cot a ffeil darllen pob dydd.
Gwisg nofio dydd Iau.
Dillad addas ar gyfer Gwener Gwyllt ar ddydd Gwener.
Os hoffai unrhyw disgybl ddod ag unrhyw adnodd/arteffact mewn i’r ysgol sy’n ymwneud á’r thema, chaniateir hyn.