CROESO I YSGOL BRO BRYNACH
“CYRRAEDD Y BRIG YW EIN NOD”
Agorodd Ysgol Bro Brynach ym mis Medi 2004. Ysgol categori 1 yw hon, sydd yn darparu addysg i blant 3-11 oed o gymunedau Cwmbach, Henllan Amgoed, Llanboidy a Llangynin. Hyrwyddwn ddwyieithrwydd ac mae ein staff brwdfrydig yn ymroddedig i sicrhau fod y disgyblion yn datblygu i’w llawn potensial drwy ysgogi gweithgareddu a chyfleoedd dysgu a chwarae. Ein nod yw i arwain, annog, meithrin a darparu profiadau i’r holl ddisgyblion mewn awyrgylch hapus, gofalus a diogel.
Digwyddiadau wythnos yma:
Dydd Llun – Llun Llanast (cyfnod sylfaen – bydd angen dillad addas ac esgidiau glaw)
Dydd Gwener – Gwener Gwyllt (CA2 – bydd angen dillad addas ac esgidiau glaw)
Gweler gwybodaeth ddiweddaraf ar ein porthiad Trydar ac ar ein tudalen Facebook.
Defnyddiwch y ddolen isod i gael gafael ar adnoddau defnyddiol.
Adnoddau – Resources (google.com)